Mae Plaid Cymru wedi ennill is-etholiad Grangetown, gan gipio sedd y Cyngor oddi ar Llafur.
Dyma'r tro cyntaf i Blaid Cymru ennill sedd yn etholaeth De Caerdydd a Phenarth.
Dywedodd Aelod Cynulliad Canol De Cymru, Neil McEvoy,
"Llongyfarchiadau enfawr i Tariq. Am ymgeisydd!
"Mae'r fuddugoliaeth yma yn dangos pa mor bell rydyn ni wedi dod fel plaid. Gall Plaid Cymru ennill yn unrhyw le. O'r ardal fwyaf gwledig i'r ardal fwyaf amlddiwylliannol yng Nghymru. Mae pobl eisiau newid ac maen nhw eisiau ymfalchïo yn eu gwlad. Dyna pam rydyn ni angen Plaid Cymru yng Nghaerdydd.
"Rwyf yn edrych ymlaen nawr i weithio gyda'r Cynghorydd Awan wrth inni weithio'n ddiflino i wella I Grangetown."
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter