Peidiwch â chyffwrdd ein canolfannau hamdden

Cardiff_International_Pool_001.jpg

Mae Llafur ar Gyngor Caerdydd yn gwbl ddigywilydd wedi cynnig preifateiddio canolfannau hamdden Caerdydd.

Mae hyn yn bygwth gwasanaethau ac yn bygwth gweithwyr. Enw'r fenter y mae Llafur eisiau trosglwyddo ein canolfannau hamdden iddyn nhw ydy Greenwich Leisure Limited. Mae wedi ei leoli yn Llundain ac mae'n cadw dwy ran o dair o'i weithwyr ar oriau sero/contractau ysbeidiol, yn ôl undebau'r gweithwyr .

Gweithredwch heddiw i atal y bygythiad i'n canolfannau hamdden. Cadwch nhw'n gyhoeddus a cadwch nhw yma yng Nghaerdydd.

A fyddwch yn llofnodi?


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.