Y Blaid yn ennill isetholiad hanesyddol yn etholaeth y Prif Weinidog Llafur
Adam Price AC a Andrea Gibson
Mae Andrea Gibson o Blaid Cymru wedi ennill isetholiad yn Nhrelái i gael sedd ychwanegol i’r Blaid ar Gyngor Dinas Caerdydd. Cynhaliwyd yr isetholiad yn etholaeth Gorllewin Caerdydd a ddelir gan Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, wedi marwolaeth y Cynghorydd Llafur Jim Murphy.
Yr oedd y frwydr yn Nhrelái yn fesur o boblogrwydd Mark Drakeford, fisoedd yn unig wedi iddo gael ei ethol yn Brif Weinidog. Yr oedd Trelái yn ardal draddodiadol o gefnogaeth Gymreig, dosbarth-gweithiol i Lafur, a bu’n gyson yn un o ardaloedd cryfaf Llafur yng Nghymru. Ond yn etholiadau 2016 am y Cynulliad Cenedlaethol, llwyddodd Neil McEvoy I ddyblu pleidlais y Blaid a throi Gorllewin Caerdydd yn sedd ymylol.
Plaid yn lansio deiseb i warchod dinasyddiaeth Ewropeaidd pobl y DG
Dylai pobl gael yr hawl i gadw eu dinasyddiaeth Ewropeaidd ar ôl Brexit, medd Plaid Cymru, wrth lansio deiseb ar-lein
Cynnig gerbron Cyngor Caerdydd ar Brofi Llaid Niwclear Hinkley
Wedi i Lywodraeth Cymru gytuno i roi trwydded i ollwng 300,000 tunnell o laid o Orsaf Bŵer Niwclear Hinkley Point wrth lannau Caerdydd, cyflwynodd Grŵp Plaid Cymru Group ar Gyngor Caerdydd gynnig (Dydd Iau, 25 Ionawr) i fynnu bod profion annibynnol a thrwyadl yn cael eu cynnal cyn mynd ymlaen.
Datgelwyd ym Mhwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Ionawr fod Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru eisoes wedi rhoi trwydded i’r dympio fynd rhagddo ym mis Mehefin.
Dywedodd Arweinydd Grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Caerdydd, y Cyng. Neil McEvoy AC, “Cefais fraw ym Mhwyllgor Deisebau’r Cynulliad pan ddaeth cadarnhad nad oedd unrhyw ddadansoddiad wedi bod o’r ddos o ymbelydredd y gall y mwd islaw 5cm gynnwys, neu beidio, er mai cyfanswm y ddos bosib yw’r nodwedd mwyaf pwysig.
Trigolion Rhath yn Ennill Coed-Oediad
TRIGOLION Y RHATH YN ANNOG CNC I DDOD AT EU COED
Bydd Cymuned Nant y Rhath yn parhau i brotestio yn erbyn torri degau o goed aeddfed yn Nant y Rhath a Gerddi Melin y Rhath (Caerdydd) gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Dywedodd Neil McEvoy AC (Aelod Cynulliad Canol De Cymru), ar ôl cyfarfod eto gyda grŵp y trigolion, yn dilyn ail-gychwyn y protestiadau (am 8.00 a.m. ar ddydd Llun Ionawr 8) fod y Gweinidog wedi cytuno i gwrdd â’r ymgyrchwyr (Ionawr 9).
Mae'r naturiaethwr Iolo Williams yn cefnogi trigolion y Rhath wrth amddiffyn eu coed
Lansio deiseb i wrthdroi’r drwydded dympio ymbelydroledd yn nyfroedd Cymru.
Mae Neil McEvoy AC hyn cefnogi deiseb a lansiwyd yn y Cynulliad Cenedlaethol i atal trwydded fydd yn caniatau dympio 300,000 tunnell o fwd a allai fod yn ymbelydrol yn nyfroedd Cymru.
Daw’r deunydd fydd yn cael ei garthu o’r arfordir oddi ar atomfa niwclear Hinkley Point yng Ngwlad yr Haf.
Llofnod'r Ddeiseb: https://www.assembly.wales/cy/gethome/e-petitions/Pages/petitiondetail.aspx?PetitionID=1243
Cynllun fflatiau myfyrwyr gorsaf fysus Caerdydd yn cael ei ‘alw i mewn’ gan Neil McEvoy
Mae cynlluniau dadleuol Cyngor Caerdydd am orsaf fysus Caerdydd wedi eu ‘#galw i mewn’ gan Neil McEvoy, Arweinydd Grŵp y Blaid ar Gyngor Caerdydd.
Mae’r galw i mewn yn golygu y bydd pwyllgor arbennig yn cyfarfod ar Fedi 13 i graffu ar y cynlluniau diweddaraf a allai weld codi fflatiau myfyrwyr yn lle gofod swyddfeydd gradd A a chartrefi.
Mae’r cynllun am yr orsaf fysus a gynigiwyd gan y Cyngor Llafur wedi bod mewn dyfroedd dyfnion ers misoedd. Ym mis Mawrth eleni, cafodd y modd y triniodd Cyngor Caerdydd y cyllid ar gyfer y prosiect hwn ei drin fel ‘dosbarth meistr mewn blerwch’ gan Brif Ohebydd Media Wales. Yr oedd hyn wedi iddi ddod i’r amlwg na drefnwyd unrhyw becyn cyllido er mwyn adeiladu’r orsaf fysus fwy na 18 mis wedi i’r hen orsaf fysus gael ei chwalu.
Plaid Cymru Caerdydd yn ennill seddi ychwanegol ar Gyngor Caerdydd
Cyfartaledd pleidleisiau’r pleidiau ar draws Gorllewin Caerdydd
Cynyddodd Plaid Cymru Caerdydd ei bleidlais o 77% ar draws Gorllewin Caerdydd a gorffen yn ail neu'n drydydd ym mhob ward yng ngorllewin y ddinas. Gwelwyd perfformiadau cryf hefyd ar draws y ddinas.
Maniffesto #iGaerdydd
Mae Maniffesto #iGaerdydd yn ganlyniad i filoedd o sgyrsiau at draws Caerdydd ar garreg y drws, mewn tafarndai, ysgolion, canolfannau cymunedol a lleoedd o addoliad
Mae gan Maniffesto #iGaerdydd saith addewid allweddol a fydd yn trawsnewid Caerdydd yn brifddinas lannach, wyrddach ac iachach
Neil McEvoy yn beirniadu ‘achos sioe wleidyddol’
Mae Neil McEvoy wedi beirniadu ymchwiliad Ombwdsmon Cyhoeddus Cymru fel ‘achos sioe wleidyddol’ sydd yn cynnwys aelodau wedi’u penodi gan Lywodraeth Llafur Cymru.
Fe fydd Mr McEvoy yn dod gerbron Panel Dyfarnu yn Llys Ynadon Caerdydd ar ddydd Iau 2 Mawrth.
Penderfyniad ar Heol Waungron wedi’i alw’i mewn yn llwyddiannus gan Blaid Cymru
Mae grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Caerdydd wedi ‘galw’i mewn’ yn llwyddiannus benderfyniad y Cyngor Llafur i droi canolfan ailgylchu Heol Waungrion yn gyfnewidfa bysus.
Mae’r penderfyniad bellach wedi’i wrthod gan bwyllgor craffu arbennig gan atal y cynlluniau am y tro. Nawr fe fydd rhaid i’r Cyngor Llafur bleidleisio unwaith eto i gychwyn y broses os ydyn nhw eisiau parhau.