Neil McEvoy yn mynnu ateb i argyfwng biniau Caerdydd

Mae trigolion mewn rhannau o Orllewin Caerdydd wedi eu “cythruddo” yn sgil methiant Cyngor Llafur Caerdydd i gasglu biniau sbwriel newydd.

Yn y fideo hwn a gynhyrchwyd ar gyfer gorsaf deledu Made in Cardiff, mae Neil yn rhybuddio os na fyddant yn cael eu casglu o fewn dyddiau y bydd yn llogi fan ac yn cludo’r sbwriel i Neuadd y Ddinas ei hun.

Neil McEvoy, sy’n Gynghorydd Sir yn y Tyllgoed, yw ymgeisydd Plaid Cymru Gorllewin Caerdydd yn Etholiad y Cynulliad ar Fai 5ed.


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.