Wedi i Lywodraeth Cymru gytuno i roi trwydded i ollwng 300,000 tunnell o laid o Orsaf Bŵer Niwclear Hinkley Point wrth lannau Caerdydd, cyflwynodd Grŵp Plaid Cymru Group ar Gyngor Caerdydd gynnig (Dydd Iau, 25 Ionawr) i fynnu bod profion annibynnol a thrwyadl yn cael eu cynnal cyn mynd ymlaen.
Datgelwyd ym Mhwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Ionawr fod Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru eisoes wedi rhoi trwydded i’r dympio fynd rhagddo ym mis Mehefin.
Dywedodd Arweinydd Grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Caerdydd, y Cyng. Neil McEvoy AC, “Cefais fraw ym Mhwyllgor Deisebau’r Cynulliad pan ddaeth cadarnhad nad oedd unrhyw ddadansoddiad wedi bod o’r ddos o ymbelydredd y gall y mwd islaw 5cm gynnwys, neu beidio, er mai cyfanswm y ddos bosib yw’r nodwedd mwyaf pwysig.
“Roedd yn rhyfeddol hefyd clywed na ellid rhoi manylion am gyrchfan derfynol y mwd. Mae astudiaethau gwyddonol wedi dangos y gall gronynnau ymbelydrol deithio 10 milltir i mewn i’r tir, o’r môr. Gall effeithio ar y cyfan o arfordir cyfagos Cymru.
“Mae’n anhygoel fod Llywodraeth Lafur yn y Bae wedi rhoi caniatâd i’r dympio, ar waethaf y diffyg enfawr hwn mewn sicrwydd am ddiogelwch. Rwy’n gofyn i bob Cynghorydd yng Nghaerdydd, fel ein prifddinas, i weithredu er budd cenedlaethol Cymru a chefnogi ein cynnig.”
Meddai’r Cynghorydd Keith Parry (Plaid Cymru), “Mae’r Llywodraeth wedi cymryd y dystiolaeth am y cynllun dympio hwn yn ddi-gwestiwn. Allwn ni ddim gadael iddyn nhw fentro peryglu dyfodol iechyd pobl Caerdydd a de Cymru fel hynny. Rydym yn galw ar gynghorwyr y ddinas, o ba bynnag blaid, i gefnogi ein cynnig a gofalu’n gyntaf fod y deunydd hwn yn ddiogel.”
Wrth siarad ar ran yr Ymgyrch ‘Atal y Dympio’, meddai’r arbenigwr ar ymbelydredd yn y môr Tîm Deere-Jones “Dyw honiadau diweddar gan y diwydiant niwclear yn erbyn Ymgyrch Atal y Dympio, ein bod yn codi bwganod yn ddim ond ymgais i gelu’r ffaith nad oes gan y diwydiant unrhyw atebion i’r pryderon a godwyd gan yr Ymgyrch ac ACau ar Bwyllgor deisebau’r Senedd.”
Dyma’r Cynnig a drafodir yng Nghyngor Caerdydd ddydd Iau 26 Ionawr, a gynigiwyd gan y Cyng. McEvoy a’i eilio gan y Cyng. Keith Parry:
‘Noda’r Cyngor hwn y cynnig i ddympio 300,000 tunnell o fwd o’r tu allan i Orsaf Bwer Niwclear Hinkley Point yn nyfroedd Caerdydd. Geilw’r Cyngor hwn ar y Cabinet i gadw at yr Egwyddor Rhagofalus (ERh) fel y manylir amdano yn Erthygl 191 y Cytundeb ar Weithredu’r Undeb Ewropeaidd. Nod yr ERh yw sicrhau lefel uwch o warchodaeth amgylcheddol trwy gymryd penderfyniadau rhagofalus os cyfyd risg.
A derbyn na weithiwyd allan ddos bosibl yr ymbelydredd o ddeunydd Hinkley Point islaw 5cm a hefyd mai dim ond 5 sampl a gymerwyd ar ddyfnder islaw 5cm, daw’r Cyngor hwn i’r casgliad, er lles diogelwch y cyhoedd, y bydd y Cyngor yn talu am ddadansoddiad annibynnol a thrwyadl o’r mwd ar ddyfnder, trwy ymgynghoriad â CEFAS a’r ymgyrchwyr y tu ôl i’r ddeiseb i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.’
Ymatebodd yr ymgyrchwyr a gyflwynodd y ddeiseb wreiddiol i’r Cynulliad ynghylch y dympio arfaethedig (Trwydded Forol 12/45 ML) i’r dystiolaeth ddiweddaraf trwy godi nifer o gwestiynau:
- Dim data gwaelodlin priodol am symudiadau corff o ddŵr a gwaddodion o gylch arfordiroedd aber yr Afon Hafren yn ne Cymru
- Dim data gwaelodlin ar gyfer symud/cludo deunydd gwaddodol a ddympiwyd yn Nhiroedd Caerdydd
- Dim data gwaelodlin am ymddygiad a thynged ymbelydredd cysylltiedig â gwaddodion Bae Bridgwater /Hinkley a ddympiwyd yn Nhiroedd Caerdydd
- Dim data gwaelodlin am gyddwysiadau presennol (cyn dympio) o ymbelydredd yn deillio o Fae Bridgwater /Hinkley ar arfordir de Cymru ac amgylcheddau (daearol) parthau arfordirol
- Dim data gwaelodlin am ddosau cyfredol (cyn dympio) o ymbelydredd morol i drigolion arfordir de Cymru a’r parth daearol (hyd at 10 milltir i mewn i’r tir)
- Nid oes modd felly ffurfio dosau posib am y senario wedi dympio (ymbelydredd cyfredol ac wedi dympio)
- Petai Asesiad Effaith Amgylcheddol (AEA) penodol i’r safle (Tiroedd Caerdydd) wedi ei gynnal, gellid bod wedi cywiro’r bylchau hyn yn y data
- Mae angen Asesiad Effaith Amgylcheddol (AEA) cynhwysfawr yn awr
- Geilw’r Ymgyrch yn barchus ar y Pwyllgor a’r Cynulliad Cenedlaethol i fynnu bod Llywodraeth Cymru yn sefydlu ac yn cynnal y cyfryw AEA cyn penderfynu ar adnewyddu’r drwydded
Gan Fôr Hafren/aber Afon Hafren y mae’r amrediad llanw ail fwyaf eithafol yn y byd, ac y mae dylanwadau ei lanw yn anarferol o fywiog ac yn gymharol rymus. Nodweddir rhannau mewnol Môr Hafren a holl forlin aber Afon Hafren gan ddŵr bas, a dyddodion helaeth rhwng y llanw a than y llanw ger y lan o waddodion mân, tra bod gan barth alltraeth/canolog Môr Hafren sianeli dŵr dyfnach lle mae gwely’r môr yn garegog yn bennaf.
Mae consensws cryf fod symudiad gwaddodion mân ym Môr Hafren yn ffactor o bwys yn ymddygiad a thynged llygrynnau oherwydd gall llawer o sylweddau gwenwynig (gan gynnwys ymbelydredd) pan yn gysylltiedig â hwy symud llawer iawn dan bob math o gyflwr yn y môr.
Ni wnaed astudiaethau diweddar ar Fôr Hafren ar sail data a gasglwyd, felly bu rhaid wrth fodelu cyfrifiadurol i ymchwilio i hydrodynameg, system cludo gwaddodion a’r prosesau arfordirol er mwyn datblygu gwell ddealltwriaeth o waddodi.
Mae canlyniadau y modelu yn awgrymu y buasai deunydd gwaddodol wedi ei halogi ag ymbelydredd o safle Hinkley, o’i ddympio ar Waelodion Caerdydd, yn cael ei gludo tua’r dwyrain ac i mewn i’r tir ar hyd arfordir de Cymru rhwng Caerdydd ac Afon Hafren. Fodd bynnag, gan fod rhaid i’r model cyfrifiadurol ragdybio, nid oes modd dibynnu arno am ddarlun cyflawn: mae’n awgrymu beth all ddigwydd, ond nid i ba raddau.
CYF: “Bristol Channel Marine Aggregates: Resources and Constraints Research Project” Adroddiad Terfynol: Awst 2000: Cyfrol 2 : Atodiad Technegol 06:Adran 4:3, Tudalen 28. DETR et al’
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter