Rhoddodd Bob Mogridge y gymeradwyaeth ganlynol ar gyfer Neil McEvoy:
"Fel un o drigolion y Tyllgoed a phleidleisiwr Ceidwadol gydol oes sydd wedi ymladd 3 Etholiad Lleol Cyngor Dinas Caerdydd fel ymgeisydd Ceidwadol ac sydd hefyd wedi ymgymryd â swyddi Lleol a Chenedlaethol yn y blaid Geidwadol, credaf yn gryf wrth ystyried dadrithiad y boblogaeth gyffredinol gyda gwleidyddion “proffesiynol” cenedlaethol, bod Neil yn ymgeisydd sydd nid yn unig yn gwrando, ond yn ymateb yn gadarnhaol i ddyheadau a phryderon pobl Gorllewin Caerdydd.
"Bydd yn llais annibynnol a beiddgar yn ein Cynulliad Cenedlaethol, fel y gwelwyd gan ei record fel eich Cynghorydd lleol ar Gyngor Caerdydd.
"Bydd pleidlais i Neil yn dod â CHWA O AWYR IACH i'r Cynulliad Cenedlaethol yn lle Cynulliad lluddedig dan reolaeth Llafur sydd bellach wedi gweld dyddiau gwell.”
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter