Dros Gaerdydd, dros Gymru. Ein dinas, ein gwlad.
Plaid Caerdydd yw cangen Caerdydd o Blaid Cymru.
Mae gennym hanes hir o weithgaredd yn y ddinas. Yn 1955 roeddem yn falch o gefnogi enwi Caerdydd yn brifddinas Cymru.
Nawr mae’n gwaith yn parhau er mwyn sicrhau bod Caerdydd yn brifddinas Ewropeaidd hyderus, fel y dylai fod. Yn 2008 daeth penllanw ein ymdrechion wrth i ni redeg Cyngor Caerdydd mewn clymblaid lwyddiannus rhwng 2008-2012.
Mae Plaid Cymru yn parhau i fynd o nerth i nerth yng Nghaerdydd, ac wedi sicrhau canlyniadau nodedig mewn etholiadau diweddar. Ar cardiffplaid.org gallwch ddod o hyd i’r holl ffyrdd y gallwch chi ein helpu i barhau i gynyddu ein gweithgarwch. Defnyddiwch y calendr i gymryd rhan yn ein gweithgareddau, cofrestrwch ar gyfer un o'n hymgyrchoedd, neu gwnewch gyfraniad ariannol i’r blaid.
Efallai bod y banciau a’r busnesau mawr yn cefnogi’r pleidiau eraill ond mae’r bobl ar ein hochr ni. Ymunwch â ni heddiw fel y gallwn ennill dros Gaerdydd ac ennill dros Gymru.