Lansio deiseb i wrthdroi’r drwydded dympio ymbelydroledd yn nyfroedd Cymru.

003874_29f10193.jpg

Mae Neil McEvoy AC hyn cefnogi deiseb a lansiwyd yn y Cynulliad Cenedlaethol i atal trwydded fydd yn caniatau dympio 300,000 tunnell o fwd a allai fod yn ymbelydrol yn nyfroedd Cymru.

Daw’r deunydd fydd yn cael ei garthu o’r arfordir oddi ar atomfa niwclear Hinkley Point yng Ngwlad yr Haf. 

Llofnod'r Ddeiseb: https://www.assembly.wales/cy/gethome/e-petitions/Pages/petitiondetail.aspx?PetitionID=1243

Ar yr wyneb yn unig y gwnaed profion ar y samplau o fwd. Mae samplo craidd a wnaed mewn mannau eraill ym Môr Iwerddon wedi datgelu bod lefelau is o fwd yn aml â lefelau uwch o lawer o ymbelydredd.

Rhoddwyd y drwydded i garthu gan Lywodraeth Cymru ar waethaf rhybuddion mai samplau’r arwyneb sydd yn cynnwys y lefelau isaf o halogiad.

Y pwynt pwysig yw na wnaed unrhyw Asesiad Effaith Amgylcheddol gan Gyfoeth Naturiol Cymru, y corff sydd i fod i gadw golwg ar yr amgylchedd yng Nghymru.

Bydd y ddeiseb yn galw am atal trwydded Llywodraeth Cymru hyd nes bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cynnal ymchwiliad llawn i pa mor wenwynig yw’r mwd.

Meddai Neil McEvoy AC:

“Rwy’n falch iawn fod y ddeiseb hon wedi ei lansio gan arbenigwr yn ymbelydredd y môr. Rwyf wir yn gobeithio y bydd yn cyrraedd 5,000 llofnod fel bydd yn rhaid i ni gael dadl ar y mater yn Senedd Cymru.

“Rwy’n credu bod y bygythiad o halogiad ymbelydrol yn annerbyniol, yn enweidig am na chynhaliwyd Asesiad Effaith Amgylcheddol.

“Nid lle i ddympio deunydd a garthwyd o hen atomfa niwclear sydd ddegawdau oed yw Cymru. Nid dyna’r math o ddyfodol y dylem anelu ato fel cenedl.

“Mae hyn yn risg hollol ddiangen. Mae angen i’r Ysgrifennydd Cabinet yn awr atal y drwydded dympio, hyd nes bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cynnal astudiaeth drylwyr a chywir o’r deunydd a all fod yn ymbelydrol”


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.